Mae'r canrannau sy'n llwyddo i gyrraedd y graddau uchaf yn Lefel A ymhell uwchben y cyfartaleddau cenedlaethol ac mae disgyblion yn sicrhau llefydd yn Rhydychen, Caergrawnt a Phrifysgolion Russell Group eraill. Mae ein Cyfarwyddwr Astudiaethau Chweched Dosbarth yn cefnogi disgyblion o'r fath yn y ceisiadau hyn i barhau â'u hastudiaethau ar lefel addysg uwch.
Nid yw pob disgybl abl yn rhagori ym mhob pwnc. Mae gan bob Adran ddiffiniad o ddisgybl mwy abl a thalentog yn dibynnu ar ofynion y pwnc. Rydym yn adnabod ein disgyblion mwyaf abl yn seiliedig ar gofnodion y sector cynradd ar y cyd â thystiolaeth o allu a chyraeddiadau yn ein hysgol. Gofynnir i athrawon pwnc enwebu'r disgyblion mwy abl a thalentog yn eu dosbarthiadau. Mae'r ysgol hefyd yn defnyddio data i helpu i adnabod cryfderau a gwendidau disgyblion.
Rydym yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion mwy abl a thalentog i ddatblygu galluoedd dros gyfnod drwy ystod o ddulliau addysgu a dysgu. Mae’n ofynnol i gynlluniau gwaith gynnwys tasgau wedi'u gwahaniaethu, a bydd rhai'n gofyn am sgiliau uwch i ymestyn a herio'r disgyblion mwy abl a thalentog.
Er mwyn ceisio annog twf a datblygiad, rydym yn rhoi cyfleoedd i'n disgyblion mwy abl tu allan i'r cwricwlwm arferol i ddisgleirio a datblygu eu diddordebau. Mae tripiau a chystadlaethau yn aml yn ennyn diddordeb. Rydym yn ennill cystadlaethau a heriau peirianneg yn rheolaidd, rydym wedi bod yn Bencampwyr Dadlau Cenedlaethol, mae disgyblion yn cael marciau uchel yn rheolaidd mewn heriau Mathemateg cenedlaethol, ac roedd tîm o'n disgyblion ymysg y 25 uchaf yn y byd wrth gyrraedd rowndiau terfynol rhyngwladol yn Abu Dhabi mewn cystadleuaeth dylunio a rasio model o geir fformiwla un.