Tîm Cefnogi

Dewch i gyfarfod â'r tîm hyfryd fydd yn cefnogi, helpu ac arwain eich plentyn pan fyddant yn dechrau.

Bydd Athro Dosbarth gan bob disgybl fydd yn bwynt cyswllt a chymorth uniongyrchol iddynt, yn wyneb cyfarwydd fyddant yn ei weld bob dydd ac yn sefydlu perthynas gadarnhaol â hwy.

Mae Athrawon Dosbarth Bl7-11 yn gweithio gyda, a than gyfarwyddyd, Pennaeth Cynorthwyol Cyswllt a Mr. Martin Williams, y Dirprwy Bennaeth sy'n gyfrifol am Les Bugeiliol. Ar ôl i'ch plentyn ddechrau mynychu Ysgol Friars, os ydych angen unrhyw wybodaeth neu os oes unrhyw fater yr hoffech ei drafod, dylech gysylltu â'u Hathro Dosbarth neu Bennaeth Blwyddyn.

Mrs Ceri Parry

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinydd Trosglwyddo

Bydd Mrs Parry wedi ymweld â'ch plentyn yn eu Hysgol Gynradd a bydd yn wyneb cyfarwydd iddynt sy'n ymwneud yn agos â'u trosglwyddiad i Ysgol Friars yn ystod wythnosau cyntaf Blwyddyn 7.

Dylai eich plentyn weld Mrs Parry os ydynt wedi bod yn derbyn help ychwanegol yn eu gwersi i gyd ⁠neu rai ohonynt

Mrs Ceri Parry

Mrs Ray Rimmer

Pennaeth Blwyddyn 7

Pennaeth Bl7 yw Mrs Rimmer a bydd yn symud gyda'ch plentyn drwy flynyddoedd 7-9 ac mae ar gael i'ch plentyn bob amser.

Mrs Ray Rimmer

Miss Ffion Williams

Pennaeth Cynorthwyol Cyswllt: Pennaeth yr Ysgol Isaf

Mae Miss Williams yn goruchwylio system gefnogi blynyddoedd 7-9 ac mae ar gael i'ch plentyn bob amser. Mae hi hefyd ar gael i'ch cynorthwyo chi neu eich plentyn os nad yw Mrs Rimmer yn gallu gwneud hynny.

Miss Ffion Williams