Polisi Iaith
Mae Awdurdod Addysg Gwynedd yn gweithredu polisi dwyieithog drwy holl ysgolion Gwynedd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn Ysgol Friars.
Y nod yw datblygu gallu disgyblion i ddod yn ddwyieithog er mwyn iddynt fedru cymryd rhan lawn yn y gymdeithasol ddwyieithog y maent yn byw ynddi. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw ddisgybl yn cael ei roi mewn grŵp dysgu lle na fyddant yn medru ymdopi â'r iaith a ddefnyddir i gyflwyno gwersi.
Yn ôl ei hadnoddau, bydd Ysgol Friars yn ceisio adlewyrchu a chefnogi polisi iaith y sir yn ei gweinyddiaeth, ei bywyd cymdeithasol a'i threfniadau bugeiliol, yn ogystal â'i darpariaeth academaidd.
Mae Dogfen Polisi Iaith Gwynedd yn dangos bod Ysgol Friars yn y categori T2 trosiannol, a cheir rhagor o fanylion yn y ddogfen sy'n cyfeirio at y galw ar yr ysgol a'i nodau.
Mae gweinyddiaeth dydd-i-ddydd yr ysgol yn cael ei wneud yn ddwyieithog.
Cymraeg fel pwnc
Bydd pob disgybl yn cael gwersi yn yr Adran Gymraeg hyd at ddiwedd Blwyddyn 11.
Dysgu Dwyieithog
Yn ystod Blynyddoedd 7-9, byddwn yn ceisio cefnogi gwaith yr Adran Gymraeg.
Bydd hyn yn cynnwys ceisio cryfhau Cymraeg yr holl ddysgwyr drwy roi cyfleoedd i drafod yn y Gymraeg a chyfathrebu yn y Gymraeg gydag athrawon, a cheisio cynnig rhai pynciau drwy ddysgu dwyieithog ar gyfer y disgyblion mwyaf rhugl, e.e. Hanes, Addysg Grefyddol, Cerdd, Technoleg ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.