Polisi ar Gofrestru Arholiadau a Thalu Ffioedd
Bydd yr ysgol yn talu ffioedd ac yn rhoi pob cyfle rhesymol i ddisgyblion sefyll arholiadau allanol o dan arweiniad y Pennaeth a’r staff.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestr cofrestriadau'r ysgol i’r bwrdd arholi yw canol mis Chwefror. Bydd disgwyl i bob disgybl sydd â gobaith rhesymol o lwyddo gwblhau’r cwrs a sefyll yr arholiad. Y Pennaeth sydd i benderfynu ar gofrestru yn y pen draw, a bydd ei benderfyniad yn derfynol. Mae’r trefniadau hyn yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn:
Bydd gan Bennaeth Adran y disgresiwn i ofyn i beidio â chofrestru disgyblion am arholiad allanol os ydynt wedi methu â chyflawni pob un o’r amodau a ganlyn:
- Presenoldeb ar y cwrs arholiad perthnasol am o leiaf 85% o nifer y sesiynau posibl yn yr ysgol hon neu un arall. Ni fydd absenoldebau o ganlyniad i salwch neu anaf gwirioneddol ac a ategir gan dystiolaeth ysgrifenedig yn cyfrif yn erbyn y ffigur hwn.
- Presenoldeb mewn ffug arholiadau. Os yw’r disgybl yn absennol am resymau meddygol y gellir eu cyfiawnhau, gellir cynnal ffug arholiad pan fydd y disgybl yn ddigon iach i ailgydio yn ei addysg.
- Rhaid bod Gwaith Cwrs, Asesiadau Rheoledig neu Arholiadau Ymarferol fod wedi cael eu cwblhau hyd foddhad y Pennaeth Adran.
Os yw'r ysgol yn gwrthod talu ffioedd a chofrestru disgybl, bydd modd i rieni neu warcheidwad gofrestru disgybl yn breifat, gan dalu'r ffioedd priodol i'r bwrdd arholi drwy'r ysgol. Bydd modd i'r disgybl ddefnyddio'r ysgol fel canolfan arholi. Ni fydd yr ysgol yn talu i ddisgybl gofrestru ar fodiwl unigol fwy na dwywaith.
Y drefn safonol wrth beidio â chofrestru myfyrwyr ar gyfer cymwysterau UG neu U2 yw mai dim ond ar ôl trafodaeth a chytundeb ymlaen llaw gyda Phennaeth Astudiaethau'r Chweched Dosbarth y dylid gwneud hynny. Bydd unrhyw ffioedd cofrestru hwyr o ganlyniad i beidio â dilyn y weithdrefn hon yn cael eu codi ar y maes cwricwlwm dan sylw.
Bydd yr ardystiad UG yn digwydd ym mis Awst.
Os bydd unrhyw gamymddwyn yn ystod arholiad allanol, bydd yr ysgol yn cyflwyno adroddiad i'r bwrdd arholi. Bydd Pwyllgor Cyntaf y Corff Llywodraethu yn derbyn copi o'r adroddiad. Gall camymddwyn arwain at ganslo papur arholiad disgybl a/neu efallai y bydd yn ofynnol i ddisgybl sefyll y papurau arholiad sy’n weddill mewn canolfan arall.
Disgwylir i ddisgyblion fynychu'r arholiad wedi paratoi'n briodol a chyda'r cyfarpar cywir; efallai na fydd modd i'r ysgol fenthyca cyfarpar i'r disgyblion os byddant wedi anghofio dod â'r eitemau gyda nhw eu hunain.
Disgwylir i fyfyrwyr fynychu mewn gwisg ysgol gyflawn.
Efallai y bydd disgyblion sydd ddim yn cydymffurfio yn cael eu hanfon adref i newid.
Bydd yr ysgol yn rhoi'r holl wybodaeth i ddisgyblion am arholiadau allanol. Wedi hynny, cyfrifoldeb y disgyblion fydd dilyn yr wybodaeth yn fanwl.
Os bydd disgybl yn absennol o arholiad allanol heb nodyn meddygol, rhaid ad-dalu’r ffi am yr arholiad i’r ysgol. Mae'r ysgol yn cadw'r hawl i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i adennill ffioedd arholiadau a wastraffwyd.
Bydd penderfyniad yr ysgol ynghylch pa haen y cofrestrir y disgybl arni neu ba bapur y bydd y disgybl yn ei sefyll, yn derfynol.
Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu'r ffioedd priodol ar gyfer ail-farcio sgriptiau arholiadau oni bai bod y broses yn cael ei chefnogi gan y Pennaeth Adran neu'r Athro sy'n Gyfrifol am Bwnc perthnasol. Nid oes modd ail-farcio rhai elfennau o arholiadau ar gyfer myfyrwyr unigol, e.e. gwaith cwrs. Mewn amgylchiadau eithriadol gall yr ysgol ofyn am ail-gymedroli sampl gyfan a gyflwynwyd i fwrdd arholi.
Dylai myfyrwyr a rhieni nodi y gall y marciau a roddir am sgriptiau arholiad a ail-farciwyd gynyddu neu leihau.
Bydd yr ysgol yn gweinyddu tâl o £10 i adfer tystysgrifau arholiad sydd heb eu hawlio o fewn blwyddyn galendr i ddyddiad gadael yr ymgeiswyr.
Bydd y tâl hwn yn cynnwys y gweinyddu, postio a phacio sy'n gysylltiedig ag adfer tystysgrifau.
Noder: Rhaid i Benaethiaid Adrannau hysbysu rhieni yn ysgrifenedig os bydd disgybl yn cael ei dynnu allan o arholiad.