Crynodeb o Bolisi Anghenion Dysgu Ychwanegol Ysgol Friars
Mae copi o'r polisi llawn ar gael o swyddfa'r ysgol.
Sail Resymegol
Mae Ysgol Friars wedi ymrwymo at ddull ysgol gyfan gyda phob adran yn ymgymryd â'i chyfrifoldeb i wneud y cwricwlwm yn hygyrch i bawb.
Diffiniad
Mae plentyn gydag anghenion dysgu ychwanegol yn blentyn sydd angen cefnogaeth neu baratoi ychwanegol gan bod ei lefel gyffredinol o gyrhaeddiad academaidd yn sylweddol uwch neu is na'i gyfoedion. Yn ogystal, efallai bod gan rai anhawster dysgu penodol, sgiliau cymdeithasol gwael, anawsterau emosiynol ac/neu ymddygiadol neu anabledd corfforol/synhwyraidd.
Nod
Sefydlu system sy'n cyflawni anghenion Deddfau Addysg 1981, 1988 ac 1993 a'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn galluogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol i arddangos yn llawn yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Amcanion
- Rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddatblygu a chymryd rhan mewn cwricwlwm sy'n berthnasol, eang, cytbwys a gwahaniaethol waeth beth fo'u hanghenion addysgiadol.
- I adnabod plant gydag anghenion dysgu ychwanegol ac i sicrhau eu bod yn cael eu symbylu a'u hymestyn.
- Cyflawni integreiddio swyddogaethol a chymdeithasol mewn amgylchedd gefnogol.
- Annog rhieni/gwarcheidwad i chwarae rhan allweddol yn y broses o addysgu plant gydag anghenion dysgu ychwanegol
- Parhau i feithrin ein cyswllt gydag asiantaethau allanol, boed yn statudol neu'n wirfoddol
N.B. Mae gan yr ysgol ddisgyblion gydag amrediad o anableddau. Mae lifftiau yn rhai o adeiladau'r ysgol, mae'n darparu dodrefn wedi'i addasu ac, ar y cyd â'r ALl, mae'n darparu cymorthyddion cefnogi dysgu i ddisgyblion dynodedig.
Polisi Mynediad
Mae'r Ysgol yn gweithredu Polisi'r AALl ar Fynediad i Ysgolion. Gallwch gael copi o hwn gan y Cyfarwyddwr Addysg.
Addasiadau ADY Arbenigol ac Addasiadau i Adeiladau
Mae lifftiau ar gael mewn tri adeilad.
Trefniadau ar gyfer Cydlynu'r Ddarpariaeth a'r Adnoddau Dysgu Ychwanegol
Fel arfer, darperir Cymorthyddion Cefnogi Dysgu gan yr AALl. Maent yn darparu amrediad o gefnogaeth i ddisgyblion unigol neu grwpiau dysgu bychan sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn achlysurol, mae niferoedd y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn codi a gostwng ac ni all yr ysgol sicrhau'r ddarpariaeth hon i bob disgybl, yn enwedig i'r rhai sy'n cael mynediad i'r ysgolar adegau heblaw dechrau'r flwyddyn academaidd. Mae darpariaeth sy'n cael ei nodi mewn datganiad yn cael ei chyflawni gan yr Awdurdod.
Bydd un cynrychiolydd o bob cyfadran/adran ar y Panel Cydlynu ADY cwricwlaidd, dan gadeiryddiaeth y Cydlynydd ADY.
Adnabod/Asesu/Adolygu
Bydd yr ysgol yn gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth a ddarperir mewn cofnodion neu gyfarfodydd trosglwyddo disgyblion. Hefyd,
bydd sgrinio disgybl yn cael ei ddarparu wrth gael mynediad - trefn sy'n ymateb i bryderon rhieni.
Bydd y Polisi Asesu ysgol gyfan yn berthnasol i'r holl ddisgyblion sydd ag anghenion ychwanegol. Yn ogystal, bydd eu cynnydd yn cael ei
fonitro'n agos gan y Cydlynydd ADY ac yn y cyfarfodydd Panel ADY. Anogir cael cyswllt agos â rhieni. Hefyd, fe ymgynghorir â disgyblion ac fe'u hanogir i gymryd rhan weithredol.
Cynhelir adolygiad blynyddol o ddisgyblion yn cael eu cynnal yn unol â gofynion y Cod Ymarfer Anghenion Arbennig Cymru 2002.