Pa offer fydd angen i fy mhlentyn ei ddod gydag ef i'r ysgol?
Mae offer ysgol sylfaenol disgybl yn cynnwys beiros, pensiliau, pren mesur, onglydd cwmpawd, pensiliau lliw a/neu binau ffelt a chyfrifiannell ar gyfer gwersi Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Bydd cyfrifiannell sylfaenol yn ddigonol ar gyfer dwy flynedd gyntaf addysg uwchradd ond bydd mwyafrif y disgyblion angen cyfrifiannell gwyddonol wedi hynny. Mae'r ddau fath yn gymharol rad ac felly efallai ei bod yn ddoethach prynu cyfrifiannell gwyddonol oherwydd mae'n debygol o fod yn addas am y pum mlynedd orfodol o ysgol uwchradd.
Mae math mwy datblygedig o gyfrifiannell (y cyfrifiannell graffig) bellach ar gael yn helaeth a gellir ei ddefnyddio mewn rhai arholiadau TGAU. Ar hyn o bryd, mae'r cyfrifianellau hyn yn gymharol ddrud ac mae’n annhebygol y byddwn yn argymell bod disgyblion yn eu prynu ar wahân i'r rhai sy'n astudio mathemateg Lefel Uwch, o leiaf yn y dyfodol agos. Mae gan yr ysgol ei stoc ei hun o gyfrifianellau o'r fath i'w defnyddio mewn gwersi.
Nid ydym yn disgwyl i chi brynu llyfrau gwaith na gwerslyfrau. Darperir y rhain gan yr ysgol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i ddisgyblion brynu unrhyw eiddo'r ysgol fydd yn mynd ar goll, yn cael ei ddifrodi neu ddifwyno.