Diwrnod arferol yn Ysgol

Mae prydlondeb yn bwysig i ni felly rydym yn disgwyl i ddisgyblion fod ar y safle erbyn 8:55am, ac mae'r diwrnod ysgol yn dod i ben am 3:15pm.

Dyma bopeth yr ydych angen ei wybod am drefn y dydd:

Rhaid i ddisgyblion Bl7-11 aros ar y safle am y ⁠diwrnod cyfan.

Mewn amgylchiadau arbennig, os ydych yn dymuno i'ch plentyn ddychwelyd adref am ginio, rhaid i chi roi gwybod i ni'n ysgrifenedig (mewn llythyr neu e-bost).

⁠Rydym wedi cyflwyno system adnabod olion bysedd i'w defnyddio yn ffreuturau'r ysgol yn ystod amser egwyl a chinio. Gall rhieni/gwarcheidwaid gredydu eu harian cinio drwy ddefnyddio'r ap School Gateway.

Gall eich plentyn hefyd dderbyn cerdyn llyfrgell petaent yn dymuno benthyg llyfrau o lyfrgell yr ysgol. Bydd rhaid talu ffi o £2.50 i newid unrhyw gerdyn a gollir.

Amserlen

Fel pob ysgol yng ngogledd Cymru, rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru, ac mewn sawl ffordd, mae'r gwaith a wnawn yn adeiladu ar y seiliau o osodwyd yn yr ysgol gynradd. Fodd bynnag, y gwahaniaeth mwyaf yw y byddant yn cael eu dysgu gan wahanol athrawon, mewn gwahanol ystafelloedd, ar gyfer pob pwnc.

Rydym wedi cynnwys enghraifft o ddiwrnod ysgol ⁠isod:

AMSER GWERS ATHRO/AWES YSTAFELL
9.00yb - 9.10yb Cofrestru Ms. Harris B1
9.10yb - 10.00yb Cyfnod 1 Hanes Mr. Hughes C3
10.00yb - 10.50yb Cyfnod 3 Mathamateg Mr. Parry M1
10.50yb - 11.10am Amser egwyl
11.00yb - 12.00yh Cyfnod 3 Saesneg Miss. Davey S1
12.00yh - 12.50yh Cyfnod 4 Gwyddoniaeth Mr. Varty G4
12.50yh - 1.35yh Amser cinio
1.35yh - 2.25yh Cyfnod 5 Technoleg Mr. Holdsworth T2
2.25yh - 3.15yh Cyfnod 6 Cerddoriaeth Mrs. Williams A7