Cyswllt Meddygol ac mewn Argyfwng

Cofier bod cofnod meddygol plentyn yn ddogfen gyfrinachol, ac nid yw cynnwys y cofnod yn cael ei ddatgelu i'r ysgol.

Felly, disgwylir i rieni hysbysu'r ysgol am unrhyw gyflwr meddygol neu glinigol a allai effeithio plentyn pan maent yng ngofal yr ysgol.

Yn achlysurol, mae plant yn mynd yn sâl yn yr ysgol, neu fe allant gael damwain. Ar yr adegau hynny, efallai y bydd angen i ni drefnu cymorth proffesiynol yn ddi-oed ac ar yr un pryd, bydd angen rhoi gwybod i'r rhieni neu oedolyn cyfrifol dynodedig cyn gynted â phosib. Felly, sicrhewch eich bod yn rhoi rhif(au) ffôn rhywun y gellir cysylltu â nhw mewn argyfwng os nad ydych chi ar gael, i Bennaeth Blwyddyn eich plentyn.

Dylid rhoi gwybod i Swyddfa'r Ysgol ynghylch unrhyw newid mewn cyfeiriad/rhifau ffôn cyswllt ar unwaith, fel bod modd i ni ddiweddaru ein system wybodaeth.

Helpwch ni i helpu eich plentyn. ⁠