Codi Tâl am Weithgareddau Addysgiadol

Mae'r Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu Polisi o godi ffi ar ddisgyblion am:

  • Costau bwyd a llety ar ymweliadau addysgiadol ⁠
  • Gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol ⁠
  • Arholiadau allanol lle nad yw'r ysgol wedi paratoi'r disgybl ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn ysgol honno
  • Arholiadau lle mae'r disgybl yn methu â chwblhau'r gofynion neu'n methu'r arholiad heb reswm priodol
  • Difrod bwriadol i eiddo'r ysgol neu am golli eiddo'r ysgol
  • Gwneir cais gwirfoddol gan rieni lle nad oes modd codi ffi am weithgaredd, ond ni fydd unrhyw ddisgyblion yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan pan na all eu rhieni gyfrannu.
  • Mae'n bosib na fydd rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal heb ddigon o gyfraniadau gwirfoddol.