Blynyddoedd 7, 8 & 9

Pynciau ⁠sy'n cael eu cynnig

Cymraeg Saesneg
Mathemateg Ffrangeg
Technoleg Gwybodaeth Celf
Daearyddiaeth Hanes
Addysg Grefyddol Gwyddoniaeth
Dylunio a Thechnoleg Addyg Gorfforol
Celfyddydau Mynegiannol yn cynnwys Cerdd a Drama Iechyd a Llesiant

Datblygu Sgiliau Sylfaenol

Mae cefnogaeth Datblygu Sgiliau Sylfaenol wedi'i dargedu at y rhai a fyddai'n elwa fwyaf o'r cymorth ychwanegol.

Mae'r cymorth yn cael ei ddarparu drwy'r tîm Cefnogi Dysgu. Ymgynghorir â rhieni cyn i fyfyrwyr ymuno â'r rhaglenni hyn.

Mae'r ysgol yn gweithredu clybiau gwaith cartref yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol.

Addysg i'r rhai gydag ADY

Fel y trafodwyd yn gynharach, mae darparu addysg ar gyfer ADY yn rhan integredig o addysg prif ffrwd. Mae yna ⁠un grŵp dysgu lle darperir cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr fel y nodir ym mholisi'r ysgol ar ddarparu addysg anghenion arbennig ychwanegol.

Mae maint y grŵp hwn wedi'i gyfyngu o ddarparu'r sylw unigol mwyaf. Mae'r grŵp yn cael ei ddysgu gan un athro am y mwyafrif o'r amser fel bod modd cael dull mwy thematig tuag at eu dysgu.

Y Cwricwlwm 11-16 ⁠

Lle bo modd, bydd yr ysgol yn darparu cwricwlwm sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng y meysydd cwricwlwm 11 fel yr awgrymir gan y Cwricwlwm Cenedlaethol, a'r elfennau traws-gwricwlaidd hynny megis Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Darperir cefnogaeth, o fewn adnoddau'r ysgol, ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau dysgu.

Cwricwlwm Patrwm

Gweler isod amlinelliad o batrwm y cwricwlwm sy'n cael ei weithredu yn yr ysgol hon:

Blwyddyn 8 - Cwricwlwm i Gymru ⁠
Iaith 33.3%
Personol Craidd 3.3%
Technoleg/Dylunio/Creadigol/TGCh/Corfforol 23.3%
Dyniaethau (yn cynnwys Addysg Grefyddol) 13.3%
Mathemateg 13.3%
Gwyddoniaeth 13.3%
Blwyddyn 9
Iaith 30.0%
Personol Craidd 3.3%
Technoleg/Dylunio/Creadigol/TGCh/Corfforol 23.3%
Dyniaethau (yn cynnwys Addysg Grefyddol) 16.7%
Mathemateg 13.3%
Gwyddoniaeth 13.3%