Blynyddoedd 10 & 11
Cyfnod Allweddol 4/Cwricwlwm Cenedlaethol
Wrth i'ch plentyn gyrraedd diwedd Blwyddyn 9, byddant yn cael dewis cyfuniad o bynciau i'w hastudio drwy Flynyddoedd 10-11, fydd yn arwain at achrediad.
Bydd y myfyrwyr yn cael eu cefnogi'n llwyr a'u cynghori gan staff dysgu, ynghyd â chi eich hunain, gydag ymgynghoriadau a nosweithiau agored er mwyn sicrhau eu bod yn dewis y pynciau cywir i'w hastudio. Noder, mae cael eich derbyn ar gwrs yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y cwrs, gallu, potensial ac ymdrechion blaenorol yr unigolyn, ynghyd ag adnoddau'r ysgol i gwrdd â'r galw.
Mae Heriau Sgiliau'r Fagloriaeth Gymraeg yn cael sylw yn y meysydd pwnc perthnasol a thrwy ddyddiau amserlen gywasgedig. Bydd y mwyafrif helaeth yn sefyll arholiadau TGAU, ond bydd rhai disgyblion yn sefyll yr arholiad BTEC, Cymhwyster Lefel Mynediad (ELQ) neu NVQ.
Cynigir rhai cyrsiau galwedigaethol mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo-Menai. Mae'r penderfyniad ynghylch pa gwrs y mae myfyriwr yn ei ddilyn yn cael ei wneud yn unol â chyrhaeddiad academaidd a'r llwybr galwedigaethol
Llwybrau Dysgu 14 - 19
Mae ein myfyrwyr wrth galon popeth a wnawn, a dyma pam ein bod wedi buddsoddi'n drwm mewn datblygu a sefydlu cwricwlwm eang, arloesol a deniadol sy'n bodloni eu hanghenion a'u dyheadau, ac o ganlyniad, sy'n ymateb i'r agenda Llwybr Dysgu 14-19.
Mae rhai o'r llwybrau amgen/galwedigaethol yn cael eu darparu drwy drefniadau partneriaeth â sefydliadau addysgiadol lleol eraill.
Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys | ||
---|---|---|
Arlwyo | Gwobr Dug Caeredin | Perfformio Peirianneg |
TGCh | Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Arlwyo |
Cymdeithaseg | Perfformio a Dawns | Lletygarwch |
Gwyddorau Cyfrifiadurol | Celf | Dylunio Cynnyrch |
Busnes | Ffrangeg | Astudiaethau Cyfryngau |
Gwallt a Harddwch | Sbaeneg | Seicoleg |
Adeiladu | Technoleg Gwybodaeth | Hanes |
Gweithgareddau Awyr Agored | Peirianneg | Daearyddiaeth |
Ar wahanol adegau o'r flwyddyn yn ystod y pum mlynedd, bydd y Craidd yn cynnwys y Fagloriaeth Gymraeg, Addysg Grefyddol / Moesau / Cwnsela/ Gyrfaoedd/ Addysg Iechyd / Addysg Rhyw / Hamdden ac Addysg Gorfforol / Profiad o Fusnes ac Arloesedd / Gofalu am y Cartref a Theulu / Ymwybyddiaeth Gymunedol ac Amgylcheddol / Sgiliau Adolygu a'r holl feysydd eraill, sy'n briodol i'r Maes Personol / Cymdeithasol.
Mae'r sgiliau a ddatblygwyr mewn meysydd penodol yn cael eu defnyddio i ategu'r meysydd profiad eraill. Er enghraifft, mae'r elfennau personol/moesegol yn y meysydd Iaith a Dyniaethau y cael eu pwysleisio, ac mae Celf Gain a Dylunio yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i sicrhau addysgu technoleg effeithiol.