Astudiaethau Crefyddol Addysg
Nid oes gan yr Ysgol unrhyw gysylltiad ag enwad grefyddol benodol ac fe ddarperir addysg grefyddol yn unol â'r Maes Llafur Cytûn i ddisgyblion hyd at 16 mlwydd oed.
Os bydd rhiant yn dymuno gweithredu ei hawl i wrthwynebu bod eu plentyn yn derbyn addysg grefyddol neu'n mynychu gwasanaeth addoli ar y cyd, dylid gwneud cais ysgrifenedig i Bennaeth yr ysgol fel bod modd iddynt wneud trefniadau addas i'r plentyn gael ei oruchwylio yn ystod yr adegau hynny.
Addoli ar y Cyd
Mae gwasanaethau addoli ar y cyd yn cael eu cynnal i grwpiau blwyddyn ar sail rota. Mae'r addoli o natur lles Gristnogol, ond ceir cyfraniadau gan wahanol ffydd hefyd.
Mae gan bob Tiwtor Grŵp fynediad at 'Ystyriaeth y Dydd' ('Thought for the Day') i'w ddefnyddio â'i grŵp.
Gall yr ysgol, mewn cytundeb â'r rhieni, ddarparu trefniadau amgen i addoli ar gyfer un neu o fwy o ddisgyblion sy'n cael eu hesgusodi, ond nid oes rheidrwydd ar yr ysgol i wneud hynny.