Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ai Ysgol Friars yw'r ysgol iawn ar gyfer plentyn gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?
Yr ateb cryno yw ie - a'r un hir hefyd. Rydym wedi ymrwymo i ddisgyblion ADY ac yn falch o ddilyn dull ysgol-gyfan i gyflwyno cwricwlwm sy'n hygyrch i bawb.
Mae plentyn gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhywun sydd angen cefnogaeth/paratoadau ychwanego. Gall hyn fod am amrywiaeth o resymau: lefel a gallu academaidd, anawsterau Dysgu penodol, problemau emosiynol/ymddygiadol/cymdeithasol neu anabledd corfforol/synhwyraidd.
Rydym yn gwneud ein gorau bob amser:
- I sicrhau bod gan bob disgybl gyfle cyfartal I ddatblygu a mwynhau cwricwlwm sy’n berthnasol, eang, cytbwys ac wedi’i wahaniaethu (wedi’i addasu i weddu i anghenion yr unigolyn), beth bynnag eu hanghenion addysgol.
- I adnabod plant gydag anghenion dysgu ychwanegol ac i sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd iawn.
- I sicrhau bod pawb yn gyfforddus ac wedi’i gefnogi ac yn chwarae eu rhan hanfodol ym mywyd ein hysgol.
- I gefnogi, arwain ac annog rhieni/gwarcheidwaid i chwarae eu rôl hanfodol yn y broses o addysgu plant gydag ADY.
- I weithio mor effeithiol ac effeithlon â phosib gydag asiantaethau allanol (statudol a gwirfoddol).
Yn Ysgol Friars, rydym yma i helpu pawb lwyddo.
Rydym yn asesu a defnyddio’r holl wybodaeth a ddarparwyd mewn cofnodion/Cyfarfodydd trosglwyddo disgyblion wrth iddynt wneud y trosglwyddiad o’r ysgol gynradd.
Rydym yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gynnig:
- Sesiynau grŵp bach ychwanegol ar gyfer llythrennedd a rhifedd.
- Cefnogaeth benodol, wedi’i thargedu I wella sgiliau darllen.
- Ein Huned Feithrin – rhaglen sy’n meithrin disgyblion ADY mewn sesiynau grŵp llai yng nghyfforddusrwydd y llyfrgell, gyda llai o athrawon, sy’n gwneud eu gwersi deimlo’n debycach I barhad o ysgol gynradd.
- Gwersi a deunyddiau addasadwy a hyblyg.
- Cymorthyddion cefnogi disgyblion ar gyfer darpariaeth grŵp/unigolion.
- Cysylltu gydag asiantaethau allanol I drefnu help a chefnogaeth ychwanegol os oes angen.
- Cyfathrebu parhaus, adolygiadau cynnydd a chyfarfodydd gyda chi I sicrhau bod eich plentyn yn gwneud y cynnydd iawn.
Trefniadau hygyrchedd
Mae prif gyfleusterau’r ysgol i gyd yn hygyrch drwy lifftiau ac eithrio’r ardal ddysgu uwchben y Neuadd Chwaraeon a’r bloc Celfyddydau a Chymdeithasol a Dyniaethau sydd heb fynediad lifft oherwydd ei ddyluniad.
Mae cyfleusterau toiled ar gael i ddisgyblion ym mhob rhan o’r y sgol. Yn ogystal, ceir cyfleusterau toiled hygyrch ym mhrif gyfleusterau’r ysgol i gyd, ac eithrio’r ardal uwchben y Neuadd Chwaraeon a’r bloc Celfyddydau a Dyniaethau, oherwydd ei ddyluniad unwaith eto.
Os oes angen, i fodloni anghenion yr holl blant, gellir symud dosbarthiadau celf i floc mwy hygyrch.