A yw hon yn ysgol dda i fy mhlentyn?

Un o'r cwestiynau anoddaf fydd rhiant yn ei ofyn yw - "Ai dyma'r penderfyniad cywir i fy ⁠mhlentyn?"

I ddweud y gwir, rydych eisoes yn anelu i'r cyfeiriad iawn wrth feddwl am y cwestiwn hwn ynddo'i hun oherwydd eich bod yn deall pwysigrwydd dewis yr ysgol iawn i'ch plentyn ei mynychu a sut bydd yn ei siapio nhw fel pobl, yn ogystal â'u gallu addysgol ac academaidd.

Er hynny, mae'n gwestiwn anodd i rieni ei ateb yn hyderus, yn bennaf oherwydd bod yr wybodaeth a'r data helaeth sydd ar gael yn gallu bod yn ddryslyd ac anghyson ond rydym yma i helpu.

Canlyniadau

Mae ein niferoedd yn ⁠dweud y cyfan. Fel y gwelwch, wrth ystyried y canlyniadau profion rhifedd a darllen, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yma.

Yn y blynyddoedd diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau perfformiad newydd ac, ar sail y dangosyddion hyn, mae'n amlwg ein bod yn un o'r ysgolion sy'n perfformio orau yng ngogledd Cymru.

Edrychwch ar ein canlyniadau TGAU nodedig ⁠isod

Mae cymharu ein canlyniadau TGAU yn 2023 gyda Chymru yn 2019 (y flwyddyn olaf lle'r oedd canlyniadau yn seiliedig ar arholiadau allanol cyn pandemig Covid-19) yn dangos fod Ysgol Friars wedi perfformio'n well na'r Cyfartaleddau Cenedlaethol ar bob lefel yn y tair blynedd i gyd, ac roedd canlyniadau eleni'r un mor gryf.

TGAU Ysgol Friars Haf 2023 Ysgol Friars Haf 2022 Ysgol Friars Haf 2021 Cymru Haf 2023 Cymru Haf 2022 Cymru Haf 2023
A*-A 29.8% 40.1% 37.0% 21.3% 25.8% 28.7%
A*-C 74.2% 81.5% 85.2% 64.5% 69.7% 73.6%
A*-G 98.1% 98.7% 99.8% 96.8% 97.5% 98.5%

Mae'r Sgôr Pwyntiau wedi'i Gapio yn fodd o fesur perfformiad sy'n cyfrifo sgôr cyfartalog pob disgybl unigol, wedi'i gapio ar swm penodol o raddau TGAU neu gymwysterau cyfatebol. Mae'r sgôr pwyntiau Capio 9 wedi disodli data Lefel 2+ a Lefel 2.

Mae'r Sgôr Pwyntiau Capio 9 i ddysgwyr ym mlwyddyn 11 yn cynnwys yr holl gymwysterau hyd at, ac yn cynnwys, Lefel 3 sydd wedi'u cymeradwyo neu ddynodi ar gyfer defnydd cyn-16 yng Nghymru gan y corff rheoleiddio yng Nghymru, Cymwysterau Cymru. Mae’n cynnwys naw slot gyda phob un werth yr hyn sydd gyfystyr ag un TGAU mewn swm. Byddai graddau 7B a 2A yn rhoi sgôr 9 pwynt wedi'i gapio o 426, fe wnaeth disgyblion yn Friars yn well na 2023 ar gyfartaledd.

Mae yna dri slot pwnc-penodol ar gyfer canlyniadau gorau pob dysgwr yn: TGAU Iaith neu Lenyddiaeth Gymraeg neu Saesneg, TGAU Mathemateg neu Fathemateg (rhifedd) a TGAU Gwyddoniaeth. Mae'r chwe slot sy'n weddill yn dangos cymwysterau gorau gweddilliol y disgybl sy'n llunio cyfanswm o naw TGAU neu swm cyfatebol o gymwysterau. Mae'r rhai nad ydynt yn llwyddo i basio'r pynciau penodol yn derbyn sgôr o sero ar gyfer y slot hwnnw yn y mesur.

Yn 2023, dengys data rhagarweiniol fod disgyblion Ysgol Friars yn sgorio 429.5 pwynt ar gyfartaledd yn y mesur Capio-9. Mae hwn yn sgôr aruthrol o uchel ac yn dangos eto pam fod Friars yn un o'r ysgolion sy'n perfformio orau yng ngogledd Cymru.

Lefel-A Ysgol Friars Haf 2023 Ysgol Friars Haf 2022 Ysgol Friars Haf 2021 Cymru Haf 2023 Cymru Haf 2022 Cymru Haf 2021
A* 11.9% 18.3% 37.4% 13.5% 17.1% 21.3%
A*-A 31.0% 39.5% 61.4% 34.0% 40.9% 48.3%
A*-E 97.3% 94.0% 99.8% 97.5% 98.0% 99.1%

Mae Llywodraeth Cymru yn mesur ysgolion yn seiliedig ar faint o ddisgyblion chweched dosbarth sy'n llwyddo i gael A* neu A, A*-C ac A*-E yn ogystal â Sgôr Pwyntiau Ehangach.

Trosglwyddiad llyfn o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd

Mae'r newid o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn naid anferthol i ddisgyblion ac rydym yma i'w cefnogi ar bob cam o'r siwrnai.

Yn Ysgol Friars, ein cenhadaeth yw sicrhau bod y trosglwyddiad hwn yn ddi-dor, dymunol a chyffrous i'ch plentyn. Dyma sut:

Rydym yn gwahodd disgyblion Bl5 i'n Diwrnod Darganfod yn ystod tymor yr Haf, sy'n rhoi cyfle iddynt flasu ystod o weithgareddau yn seiliedig ar sgiliau a chael blas go-iawn o'n hysgol. Rydym yn gwahodd disgyblion i gymryd rhan yn ein " ⁠Diwrnod Blasu" ar ddiwedd Bl6, sy'n rhoi cyfle iddynt brofi diwrnod llawn yn Ysgol Friars cyn iddynt ymuno ym mis Medi.
Mae ein staff dysgu yn ymweld ag ysgolion i ddysgu dosbarthiadau ym Ml6 yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi blas i ddisgyblion o'r hyn allent ei ddisgwyl yn Ysgol Friars, yn ogystal â chyfle i gyfarfod ein tîm hyfryd. Rydym yn argymell eich bod yn mynychu ein Noson Agored ym mis Tachwedd. ⁠ Cewch gyfle yma i ymweld â'r ysgol, cyfarfod y staff, disgyblion a rhieni eraill.
Mae aelodau staff uwch yn ymweld â'r holl ysgolion yn ardal y dalgylch ar ddechrau Bl6 i siarad gyda'r disgyblion, i rannu ein stori, ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt a dangos pa mor gyfeillgar yr ydym. Erbyn diwedd Bl6, byddwch chi a'ch plentyn yn cael gwahoddiad i'n "Noson Groeso i Friars", lle gallwch gyfarfod â'r staff, a chlywed mwy am yr ysgol a sut fyddwn yn cefnogi eich plentyn yn eu dysgu.

Os bydd gan ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY), bydd ein Cydlynydd ADY (CADY) yn blaenoriaethu mynychu adolygiadau blynyddol disgyblion Bl6 ble bo'n bosib. Mae'n hanfodol i ni ein bod yn sicrhau trosglwyddiad llyfn i Ysgol Friars.

Pan fydd plant yn trosglwyddo atom o ysgolion uwchradd eraill, rydym fel arfer yn gofyn am gopïau o adroddiadau o ysgolion blaenorol cyn iddynt gael mynediad. Pwrpas hyn yw sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion y plant sy'n cael mynediad i'r ysgol ac, yn benodol, y rhai sy'n dechrau cwrs TGAU sydd â llefydd ar gael, y mae disgyblion yn dymuno eu dilyn. Dylai rhieni/gwarcheidwaid sydd eisoes â'r wybodaeth hon ei hanfon at Bennaeth Blwyddyn y Grŵp Blwyddyn, sy'n goruchwylio pob grŵp blwyddyn ac sydd wedyn fel arfer yn trefnu mynediad.

Rydym hefyd yn darparu dau lyfryn

Mae'r llyfryn cyntaf ar gyfer y disgyblion a chaiff ei ddiweddaru bob blwyddyn. Wedi'i ysgrifennu gan ddisgyblion a staff, mae'n cynnwys mapiau, lluniau ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i setlo yn eu hysgol newydd.

Mae'r ail lyfryn i chi ac yn rhoi cyngor ar sut allwch helpu eich plant i drosglwyddo'n llyfn i ysgol uwchradd.