Ysgol Friars

Ysgol gyfun gydaddysgol 11-18

Croeso i Ysgol Friars, lle mae ein traddodiadau o ragoriaeth a theilyngdod wedi bod yn seren ddisglair ers 1557

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am ein hystyried fel y lle iawn i'ch plentyn barhau â'i siwrnai addysgol. Rydym yn deall nad yw dewis ysgol i'ch plentyn yn benderfyniad a wneir ar chwarae bach. Yn y pen draw, nid yn unig y bydd yn siapio eu dyfodol ond bydd yn eu ffurfio fel person, yn cynnau eu hoff bethau (a'u cas bethau) ac yn eu harwain ar daith bywyd disglair a llewyrchus - felly, hyderwch y byddwn efo'ch plentyn ar bob cam o'r broses, yn eu grymuso i ddisgleirio a ffynnu mewn academia a thu hwnt.

Arweinydd Addysgol

Rydym yn falch o fod yn un o'r ysgolion sy'n gwneud orau yng ngogledd Cymru, yn arwain y ffordd ac yn gosod y safonau uchaf o gyrhaeddiad, ansawdd dysgu a chyfleusterau, ac yn meithrin yr amgylchedd mwyaf cynhyrchiol.

Hwb Dynamig o Ddysgu

Mae addysg wrth wraidd ein cymuned; mae ein hathrawon, ein cymorthyddion, ein gweithwyr cefnogol a'r holl dîm bugeiliol yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi unigolrwydd pob disgybl ac wedi ymrwymo i gynnydd academaidd a phersonol eich plentyn.

Cwricwlwm Atyniadol

Mae'r pynciau a'r gwersi sydd ar gael yma wedi'u dylunio i gynnig ystod eang o brofiadau dysgu i gymell, herio ac ysgogi disgyblion. Rydym wedi ymrwymo i feithrin potensial ym mhawb, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr addysg orau posib.

Ymddygiad Cadarnhaol

Rydym wedi meithrin amgylchedd a ffordd o fyw gadarnhaol a chynhwysol yn Ysgol Friars, ac mae ein hysgol wedi cael ei chanmol yn rheolaidd gan Estyn, yr arolygwyr ysgolion, am ymddygiad rhagorol ein disgyblion.

Trosglwyddiad Llyfn

Yn Ysgol Friars, rydym yn deall arwyddocâd y naid o addysg gynradd i uwchradd, ac rydym yma i ddarparu cefnogaeth barhaus i wneud hyn yn siwrnai ddi-dor, ddymunol a chyffrous i'ch plentyn.

Hanes Cyfoethog

Ers dros bedair canrif, mae ein hysgol wedi bod yn enghraifft wych o ddysgu a gwybodaeth, yn arwain cenedlaethau drwy siwrnai addysg. Ein treftadaeth yw'r sylfaen yr ydym yn parhau i adeiladu dyfodol mwy disglair arno i bob disgybl.

Mae Ysgol Friars yn llawer mwy nag ysgol yn unig; mae'n gymuned fywiog lle mae dysgu yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Er hynny, nid siapio disgyblion yn unig a wnawn; rydym yn meithrin ein harweinwyr, ein dyfeiswyr a’n dysgwyr gydol oes ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech ymweld â'r ysgol eich hun a gweld beth sy'n ei gwneud mor arbennig, yna cysylltwch â ni - mi fyddwn wrth ein boddau yn eich croesawu. Unwaith eto, diolch am ystyried Ysgol Friars. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y daith hon gyda chi.

Ein Gweledigaeth

Meithrin mwynhad o ddysgu i'r safonau uchaf drwy greu cymuned waraidd ble mae disgyblion yn rhannu set gyffredin o werthoedd sydd yn berthnasol i'w hunaniaeth lleol, cenedlaethol a byd-eang.

pdf

Friars Prospectus 24-25